Hanes

Mae ein tad, Brython Davies, wedi bod yn berchen ar ferlod mynydd Cymreig ac yn eu dangos ers 1981, ond ni gofrestrodd deitl Bryngwenlli tan 1988. Prif gaseg cychwynnol bridfa merlod mynydd Cymreig Bryngwenlli oedd 75449 Derwen Emily a'i phrynwyd fel eboles flwydd gan Ifor Lloyd, Brifda Derwen.

Derwen Emily
Derwen Emily
1983-2006
Tad: Rookery Bunting 11516 Mam: 45118 Derwen Euryl

Dagnoswyd Emily cryn dipyn a bu hi'n bencampwraig sawl gwaith, ac roedd hi'n magu ebolesi da. Magodd Eluned 10 eboles a dau ebol. Dangoswyd y rhan fwyaf o'r ebolion ac enillont hwythau lawer o wobrau cyntaf a phencapwriaethau. O'r rhain, dyma'r ceffylau mwyaf blaenllaw:

Bryngwenlli Eluned (tad Rowfant Peacock) ganwyd ym 1989
Bryngwenlli Ebrill (tad Rowfant Peacock) ganwyd ym 1990
Bryngwenlli Euryl (tad Rowfant Peacock) ganwyd ym 1991
Bryngwenlli Elen (tad Glanferri Dandino) ganwyd ym 1992
Bryngwenlli Emily (tad Maescwm Roscoe) ganwyd ym 1996

Rydym wedi cadw'r linell yma i fynd drwy Bryngwenlli Elen a Bryngwenlli Emily.

Bryngwenlli Elen

Bryngwenlli Emily
Bryngwenlli Elen
Bryngwenlli Emily
Yna ym 1995 fe brynwyd Friars Bonheddwr 46707 gan Mr Robert Owens, Sir Fôn.
Friars Bonheddwr
Friars Bonheddwr
1995-2006
Tad: Pontgam Supreme 33685 Mam: 90551 Friars Ave Maria
Bu Bonheddwr yn lwyddiant mawr i ni a dyma rhai o'i brif wobrau yng nghylch y sioe:
1997 1af Sioe Frenhinol Cymru
2002 1af a Pencampwr Gwryw Sioe Frenhinol Cymru a Medal Aur CMCC
2004 Pencampwr CMCC Severn Valley a Medal Efydd CMCC
2006 Pencwmpwr Sioe Aberystwyth a Sir Ceredigion a Medal Arian CMCC

Un o'i gynnyrch gorau oedd 118707 Bryngwenlli Elin

Bryngwenlli Elin
Llun gan Mark Pickthall
1998-2004
Tad: 46707 Friars Bonheddwr Mam: Bryngwenlli Elen 96906

Roedd hi'n prif bencampwraig pan yn ddwy flwydd, ac hefyd y flwyddyn yna roedd hi'n wythfed safle yn y Sioe Frenhinol. Yn anffodus bu iddi farw yn 2004 ond gadawodd hi ebol dda Bryngwenlli Efydd 67586.