Newyddion
2010
Eleni, rydym wedi magu dau ebol ac un eboles. Rydym wedi gwerthu'r ddau ebol yn arwerthiant Fayre Oaks ac wedi penderfynu i gadw'r eboles, sef Bryngwenlli Elliw.

Bryngwenlli Robyn

Bu i ni ddangos Bryngwenlli Robyn mewn pum sioe, a bu'n llwyddiannus iawn gan ennill bedair gwaith, ac yna'n is-bencampwr unwaith.

 

Arwerthiant Fayre Oaks 2010

Gwerthwyd Bryngwenlli Robyn yn arwerthiant Fayre Oaks ac mae nawr yng Ngogledd Iwerddon. Hefyd gwerthwyd Bryngwenlli Eurig, ac roedd yn un o'r ebolion uchaf ei bris.

Arwerthiant Y Gelli Gandryll 2010

Bum ni'n ffodus yn yr arwerthiant yma eto. Gwerthwyd Bryngwenlli Eos, eboles dwy flwydd am un o'r prisioedd uchaf am ebolion. Roedd hi'n chwaer llawn i Bryngwenlli Eurig. Mae hi nawr yn eiddo i Mrs J Devenney (Julmar Stud). Hefyd gwerthwyd Bryngwenlli Mari yn yr arwerthiant yma.

Dymunwn pob llwyddiant i'r perchnogion newydd.

Yn ôl i'r top